English / Cymraeg
Facebook RSS


Atrium - First Aid Company of Trainers Ltd

Amdanom Ni

Rydym yn gwmni hyfforddi sefydledig gyda thîm o arbenigwyr Iechyd a Diogelwch. Ein nod yw cyfarfod eich gofynion hyfforddi yn llawn, cyflogi’r hyfforddwr mwyaf cymwys a phrofiadol yn y maes i draddodi’r cwrs fydd yn rhagori’ch disgwyliadau.
Mae ein amrywiaeth o gyrsiau yn gymorth i chi gydymffurfio yn llawn gyda deddfwriaeth cyfredol Iechyd a Diogelwch y DU. Cyrsiau sy’n ymdrin â Cymorth Cyntaf, Iechyd a Diogelwch, Codi a Chario, Diogelwch Bwyd a Diogelwch Tân.


Gall ein cyrsiau gael eu traddodi yn ein cyfleuster hyfforddiant pwrpasol yng Ngogledd Cymru, yn un o leoliadau hyfforddi a ddewisir yn arbennig ledled y wlad neu yn eich cyfleuster hyfforddi chi yn eich gweithle. Rydym yn cynnal cyrsiau ar hyd a lled Gogledd Cymru, Sir Gaer, Sir yr Amwythig a’r Gogledd Orllewin yn gyffredinol.

Mae Atrium wedi’w gymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac wedi’w achredu gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) a Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) i draddodi cyrsiau cysylltiedig â Iechyd a Diogelwch a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae Atrium yn falch o dderbyn  Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd am ein ymrwymiad a’n llwyddiant parhaus yn rheoli a gostwng effeithiau amgylcheddol yn ein gwaith.
Mae Atrium yn ymrwymo’n llwyr i gyfleoedd cyfartal i’n gweithwyr, is-gontractwyr a’r cyhoedd. Rydym yn ymrwymo i wneud cyfartaledd yn wirionedd yn ein darpariaeth o’n gwasanaethau, yn ein rôl fel cyflogwr a fel aelod allweddol yn y gymuned leol. Rydym yn credu bod gan bawb hawl i gael eu trîn yn deg, gydag urddas a pharch. Fel cwmni, ni wnawn wahaniaethu yn sgîl oedran, rhywioldeb, anabledd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd na chred. Rydym yn ymrwymo i gael gwared o wahaniaethu a hyrwyddo cyfartaledd yn ein polisiau a’n darpariaeth o’n gwasanaethau. Mae ein ystyriaeth o amrywiaeth wedi’w fewnosod yn ein arferion gwaith.


Rhif Cwmni Cofrestredig: 3528797
Rhif TAW Cofrestredig: 826 8047 14 



Work Place Health and Safety – Are You Prepared?
If you’re a small business, health and safety will more often than not be the last thing on your min... read full article

Health and Safety Training - Can You Afford to Ignore it?
Ignoring health and safety can cost your business serious money - so it really is worth making a sma... read full article

First Aid - Would you know what to do in an Emergency?
Emergency situations where you might need to give someone cardiopulmonary resuscitation (CPR) may no... read full article

pics
 
©2009 Atrium | Registered in Wales | Company Reg No. GB77866868 | Tel: 01978 660000 | Terms and Conditions | Sitemap | Web by Fotofire